Polisi Preifatrwydd
Rydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi i helpu i ddatrys eich problemau, gwella’n gwasanaethau a mynd i’r afael â materion ehangach mewn cymdeithas sy’n effeithio ar fywydau pobl.
Eich penderfyniad chi bob tro fydd gyda beth rydych chi’n gyfforddus yn ei ddweud wrthym, gan egluro pam ein bod angen eich gwybodaeth a’i chadw’n gyfrinachol. Pan fyddwn yn cadw rhywbeth y byddwch yn ei ddweud wrthym:
dim ond pan fydd gennym reswm da dros wneud hynny y byddwn yn ei defnyddio
dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol a pherthnasol y byddwn yn ei rhannu
ni fyddwn yn ei gwerthu i sefydliadau masnachol
Sut byddwch yn defnyddio fy nata?
Yn anad dim, bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i ddarparu cyngor i chi. Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth mewn ffordd fel na ellir eich adnabod yn uniongyrchol er mwyn deall sut mae gwahanol broblemau yn effeithio ar gymdeithas a gweithredu i ddatrys y problemau hyn. Gan fod y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil, mae’n cael ei chadw ar wahân i’ch cofnod achos.
Ar ôl i chi roi eich caniatâd a’ch manylion cyswllt i ni, byddwn ni, neu bartner ymchwil y gellir ymddiried ynddo mewn ambell achos, yn cysylltu â chi o bosib i ofyn am adborth ar y gwasanaeth a dderbyniwyd a’ch profiad o Cyngor ar Bopeth ar y cyfan.
Oes raid i mi roi fy nghaniatâd i chi ddefnyddio gwybodaeth amdanaf?
Gallwch benderfynu’n union pa wybodaeth rydych chi’n fodlon ei rhannu â ni. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth gan fod gennym ‘fuddiant dilys’ i wneud hynny er mwyn darparu cyngor i chi a chynnal gwaith ymchwil.
Pan fyddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth breifat amdanoch chi, fel unrhyw gyflyrau iechyd neu ethnigrwydd, bydd angen i ni gael eich cydsyniad. Mae hyn oherwydd bod y wybodaeth hon yn cael ei thrin mewn ffordd arbennig yn ôl y gyfraith. Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg a gofyn i ni ddileu’r hyn y gwnaethoch ei ddweud wrthym.
Mae rhai o’n gwasanaethau arbenigol, fel ein gwasanaeth Cyngor ar Arian, yn cael eu darparu ar sail eich cydsyniad. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol gyda’r gwasanaethau hyn.
Ble byddwch yn cadw fy nata?
Bydd y cofnod o’ch achos yn cael ei gadw’n ddiogel mewn system rheoli achosion electronig a ddefnyddir ar y cyd gan bob gwasanaeth Cyngor ar Bopeth. Rydym i gyd yn gyfrifol am ei gadw’n ddiogel. Fel rhan o’r broses o ddatrys eich problem, efallai y byddwn yn gwneud nodiadau ysgrifenedig, lawrlwytho copïau o’ch achos neu anfon negeseuon e-bost sy’n cynnwys eich gwybodaeth hefyd. Byddwn yn gofalu bod unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac ond yn cael ei defnyddio pan fydd rheswm da gan staff a gwirfoddolwyr gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i wneud hynny.
Am faint rydych chi’n cadw cofnodion?
Rydym yn cadw cofnodion am chwe blynedd. Efallai y byddwn yn cadw cofnodion am 16 mlynedd pe bai’r cyngor a roddwyd yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol pe na bai’n cael ei gadw am gyfnod hirach.
Pam y gallech chi rannu gwybodaeth? Gyda phwy y byddwch yn ei rhannu?
Fel arfer, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth heb eich caniatâd, heblaw ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith neu mewn sefyllfaoedd anghyffredin iawn, er mwyn eich diogelu chi neu rywun arall rhag niwed difrifol.
Os yw gwasanaeth penodol yn ymwneud â rhannu’ch gwybodaeth heb ganiatâd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw bob tro nad yw’n gyfrinachol..
Beth os oes gen i gwestiwn am sut y defnyddiwyd fy ngwybodaeth?
Gallwch gysylltu â ni a gofyn:
pa wybodaeth rydym ni wedi’i chadw amdanoch chi a chael copi i’w gadw
newid neu ddiweddaru eich gwybodaeth
dileu eich gwybodaeth o’n cofnodion neu dynnu eich cydsyniad yn ôl
rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut y cesglir neu y defnyddir eich gwybodaeth, gallwch gysylltu â ni yn 23 Stryd Fawr, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3HY neu cliciwch yma i lenwi ffurflen arlein.
Gallwch ddarllen gwybodaeth fanylach am sut mae rhai o’n gwasanaethau yn defnyddio’r wybodaeth ar ein gwefan genedlaethol: citizensadvice.org.uk/privacy-policy
Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ffordd rydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth, mae’n bosib i chi gysylltu efo Cyngor ar Bopeth cenedlaethol i gwyno
Yn olaf, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd i fynegi pryder am sut rydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth: ico.org.uk neu galwch 0330 414 6421 (Tîm Cymraeg). Ein rhif cofrestri efo Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw Z9194170.