Mae ein gwasanaethau wyneb i wyneb ar agor yn awr ym Mhrestatyn, y Rhyl, Rhuthun, Llangollen, Dinbych a Chorwen!

Mae ein gwasanaethau wyneb i wyneb ar agor yn awr ym Mhrestatyn, y Rhyl, Rhuthun, Llangollen, Dinbych a Chorwen!

Mae ein helusen yn darparu cyngor a chymorth diduedd, annibynnol, mewn cyfrinachedd ac am ddim i bawb. 

Gall pob un ohonom ni wynebu problemau sy’n ymddangos yn gymhleth neu’n frawychus. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn credu na ddylai unrhyw un orfod wynebu’r problemau hyn heb gyngor annibynnol, ansawdd uchel. 

Dyna pam rydym ni yma i roi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ganfod eu ffordd ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu problem.

Ein cenhadaeth yw lleihau tlodi, gwella gwytnwch ariannol a phersonol, ac atal digartrefedd, a thrwy hynny gyfrannu at wella lles o fewn ein cymuned.

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Cylchlythyr Chwarterol

Cliciwch ar y botwm isod i lawrlwytho fel PDF.

Bydd pob cylchlythyr yn cael ei anfon i'r cyfeiriad fel y'i cofnodwyd, gwnewch yn siŵr eu bod yn gywir cyn eu cyflwyno.

Cysylltwch gyda ni

Rydym ni yma i roi cyngor diduedd, annibynnol, mewn cyfrinachedd ac am ddim i chi dim ots pwy ydych chi neu beth yw eich anghenion chi. Cewch gysylltu gyda chynghorydd drwy lenwi’r ffurflen hon a gwnaiff un o’n cynghorwyr gysylltu gyda chi gynted ag y bo modd. 

Rydych chi’n cytuno, drwy lenwi’r ffurflen hon, y bydd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn storio ac yn prosesu’r data rydych chi’n ei ddarparu at ddibenion rhoi cyngor yn unig ac rydych chi’n cydsynio i’n cynghorwyr gysylltu gyda chi at ddibenion rhoi cyngor a chymorth. Cewch ddarllen am sut rydym ni’n storio eich data chi yn ein Polisi Preifatrwydd.